Y Grŵp Trawsbleidiol ar Bobl Hŷn a Heneiddio

 

14 Hydref 2015, Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel

 

              Nodyn o gyfarfod ar fynd i’r afael â cham-drin yr henoed

 

Yn bresennol

Ymddiheuriadau

Mike Hedges AC - CADEIRYDD

Andi Lyden, Ymddiriedolaeth y Gofalwyr

Laura Nott, Age Cymru - YSGRIFENNYDD

Andrew Bell, SSIA

Cathrin Manning, y Groes Goch

Gemma Hamblin, Cydraddoldeb Hiliol yn Gyntaf

Gareth Powell, BASW Cymru

Manel Tippet Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

 

 

Helen West, Swyddfa Julie Morgan AC

Robyn Miles, Glaxo Smith-Kline

Iwan Williams - Swyddfa’r Comisiynydd

Ruth Crowder, Cynghrair Ail-alluogi Cymru

Pobl Hŷn

 

John Davies, Cymdeithas Genedlaethol Pensiynwyr Cymru

 

Josh Hayman, Swyddog y Comisiynydd

 

Pobl Hŷn

 

Louise Hughes, Age Cymru

 

Lynda Wallis, Fforwm Strategaeth dros 50 y Fro

 

Marion Lowther, Cyswllt yr Henoed

 

Mohammad Asghar AC

 

Nancy Cavill, swyddfa Julie Morgan AC         

 

Phyllis Preece, y Confensiwn Pensiynwyr

 

Cenedlaethol

 

Rachael Nicholson, Action on Elder Abuse (Gweithredu ar Gam-drin yr Henoed)

 

Rachel Gingell - Gofal a Thrwsio Cymru

 

 

Croeso a chyflwyniadau

 

Croesawodd Mike Hedges AC bawb i’r cyfarfod a nododd yr ymddiheuriadau. Croesawodd Louise Hughes a Rachael Nicholson i’r cyfarfod a dywedodd fod y pwnc dan sylw yn bwnc sy’n bersonol iddo ef a’i etholwyr yn Nwyrain Abertawe.

 

Materion yn codi o’r cyfarfod blaenorol

 

Nid oedd dim materion yn codi o’r cofnodion blaenorol.

 

Cyflwyniad gan Louise Hughes, Age Cymru

 

Dechreuodd Louise ei chyflwyniad drwy esbonio lle y mae Age Cymru yn gweld yr heriau sy’n ein hwynebu yn sgîl y newidiadau sylweddol i ddeddfwriaeth. Ni fydd y ddeddfwriaeth yn datrys popeth, mae gennym fwy i’w wneud – atal, grymuso, lles a dewis.

 

Gan Gymru y mae’r nifer uchaf o achosion o gam-drin, gyda bron 40,000 o bobl hŷn yn cael eu cam-drin neu’u hesgeuluso yn eu cartrefi eu hunain yng Nghymru ac mae 21,000 yn gysylltiedig â cham-drin domestig. Ond yn anffodus llai na 5,000 o achosion sy’n cael eu nodi. Dylid gweld amddiffyn oedolion fel amddiffyn plant, gyda dyletswydd estynedig i gydweithredu (mae angen i asiantaethau ddarparu cymorth) ac adrodd am ddigwyddiadau.

 

O ran eiriolaeth, dylai hawl i gefnogaeth fod ar gael, sydd bellach wedi’i gynnwys yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), ond ni wyddys sut y rhoddir y gefnogaeth hon.

 

Rhaid ystyried barn, dymuniadau a theimladau unigolion; hyrwyddo a pharchu urddas yr unigolyn; rhoi sylw i nodweddion, diwylliant a chredoau; pwysigrwydd darparu cymorth priodol i alluogi’r unigolyn i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arno.

 

Esboniwyd pwysigrwydd hyfforddiant diogelu, gyda Louise yn darparu hyfforddiant ei hun ar ran Age Cymru. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn hefyd yn gwneud llawer o ran diogelu ac yn ceisio newid y gyfraith, er enghraifft, ‘mynediad i Gyfiawnder’.

 

Mae effeithiau ac ymwybyddiaeth o gam-drin yr henoed yn anhysbys, yn wahanol i effeithiau ac ymwybyddiaeth o gam-drin plant. Mae’n broblem gudd gyda diffyg adrodd yn ei chylch a diffyg dealltwriaeth ohoni.

 

Mae angen mwy o amddiffyniad ar gyfer pobl hŷn sy’n agored i niwed, rhag cael eu twyllo a chael pobl yn camfanteisio arnynt yn ariannol. Mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn ac Age Cymru ar hyn o bryd yn cydweithio â sefydliadau eraill yng Nghymru i greu ‘Siarter a fframwaith sgamiau’ a fydd yn pennu canllawiau clir ar gyfer busnesau, ac ati, i amddiffyn rhag sgamiau.

 

Mae angen newid mewn agweddau tuag at bobl hŷn, a rhoi mwy o urddas a pharch iddynt. Mae gennym ddeddfwriaeth a pholisi, eto ceir digwyddiadau fel achos Tawel Fan, Ymgyrch Jasmine, Winterbourne View o hyd … a yw gwersi’n cael eu dysgu mewn gwirionedd, ac yn cael eu dysgu yn eang nid yn unig yn lleol? Pa mor ddifrifol y mae angen i ni fod er mwyn sicrhau newid?

 

Atal yw’r allwedd. Mae’r ddeddfwriaeth yn datgan bod yn rhaid i awdurdod lleol ddarparu neu drefnu amrywiaeth o wasanaethau ataliol sy’n cyfrannu at atal pobl rhag dioddef camdriniaeth neu esgeulustod. Croesawodd Louise farn y grŵp ar sut y byddai hyn yn cael ei roi ar waith.

 

Dros y 12 mis nesaf gallem weld newid mawr o ran y gwasanaethau eiriolaeth a fydd ar gael, a bydd y gwasanaeth hwnnw’n costio llawer o arian i’w cadw. Roedd 84% o eiriolwyr wedi cefnogi rhywun a oedd wedi cael eu cam-drin.

 

Cyflwyniad gan Rachael Nicholson, Action on Elder Abuse

 

Rhoddodd Rachael Nicholson gyflwyniad i’r grŵp ar waith Action on Elder Abuse. Mae’r corff wedi gweithio ledled y DU ers 20 mlynedd a’u hunig ddiben fel elusen yw atal cam-drin pobl hŷn, herio agweddau a chefnogi dioddefwyr, yn ôl Rachael. Rydym yn gwneud hyn drwy godi ymwybyddiaeth am yr achosion o gam-drin, darparu hyfforddiant ar y gwahanol fathau o gam-drin, sut i’w adnabod a beth i’w wneud os ydych yn amau cam-drin, ac mae gennym amrywiaeth o adnoddau ar gyfer ymarferwyr ac unigolion. Mae Action on Elder Abuse yn diffinio ‘cam-drin’ fel: ‘gweithred unigol neu weithred dro ar ôl tro neu ddiffyg gweithredu priodol yn digwydd o fewn perthynas lle mae disgwyliad o ymddiriedaeth, sy’n achosi niwed neu ofid i berson hŷn.’ Gall y cam-drin hwn berthyn i un neu fwy o’r categorïau eang canlynol: categori ariannol, seicolegol, corfforol, cam-drin ac esgeulustod rhywiol. 

 

Roedd Astudiaeth o Achosion 2007 ar gam-drin ac esgeuluso pobl hŷn, yr oeddem ni’n cymryd rhan ynddi, yn amcangyfrif bod dros 39,000 o bobl hŷn yng Nghymru y flwyddyn yn cael eu cam-drin. (6% o bobl hŷn – 66 +) sy’n sylweddol uwch na gwledydd eraill.

 

Nid yw amddiffyn pobl hŷn ac oedolion sy’n agored i niwed yn gyffredinol yn cael yr un sylw na’r un lefel o ddifrifoldeb ag amddiffyn plant, er gwaetha’r ffaith y gall rhai pobl hŷn fod yr un mor agored i niwed, yr un mor ddibynnol ar eu gofalwyr, a bod yn methu amddiffyn eu hunain i’r un graddau.

 

Ffordd arall o atal cam-drin yw drwy ddarparu rhwystr, sef, drwy sicrhau bod effeithiau i bobl sy’n cam-drin. Gwyddom, yn rhy aml fod y System Cyfiawnder Troseddol yn siomi dioddefwyr cam-drin. Roedd ffigurau yn sgîl gwaith ymchwil gan y Comisiynydd Pobl Hŷn yng Nghymru yn amlygu, yn 2013-2014 dim ond 13% o droseddau yn erbyn pobl hŷn a nodwyd wrth yr heddlu a arweiniodd at arestio rhywun. Os nad yw pobl hŷn yn adrodd am droseddau oherwydd eu bod nhw’n poeni am drafferthu pobl, mae angen inni wneud rhywbeth.

 

I’r rheini ohonoch nad ydych yn gwybod, Ymgyrch Jasmine oedd ymchwiliad gan yr heddlu i gam-drin ac esgeulustod mewn sawl cartref gofal yng Ngwent, a ddechreuodd yn 2005. Er bod yr ymchwiliad wedi para am 7 mlynedd ni arweiniodd at unrhyw achos troseddol.Fodd bynnag, roedd yr achos hwn yn codi ymwybyddiaeth o gam-drin, yn rhoi amddiffyniad i rai a oedd yn cael eu cam-drin ac yn rhoi rhybudd i rai a oedd yn cam-drin.

 

Cawsom adroddiad gan berson ifanc a oedd wedi dechrau gweithio i asiantaeth gofal cartref. Roedd hi wedi cael hyfforddiant seiliedig ar ddamcaniaeth, ac yna aeth i gysgodi gofalwyr oedd yn mynd i gartrefi pobl. Gwelodd hi ofalwyr yn bwydo uwd a oedd yn rhy boeth i fenyw, ac roedd y gofalwyr yn anwybyddu’r fenyw yn ceisio dweud wrthynt ei bod yn cael ei brifo. Gwelodd hen ddyn yn cael ei adael yn ei gadair er ei fod wedi galw i gael mynd i’r toiled, a phan oedd wedi baeddu ei hun aethpwyd ag ef i’r toiled yn y diwedd, a gadawyd ef yno am 30 munud i feddwl am yr hyn yr oedd wedi’i wneud. Ymddiswyddodd y ferch ifanc ar yr ail ddiwrnod ond cyfaddefodd nad oedd wedi gwneud unrhyw beth arall, am nad oedd hi’n gwybod sut i gwyno nac wrth bwy, ac yr oedd ei gair hi yn erbyn y ddau ofalwr profiadol yr oedd hi’n eu cysgodi. Nid aeth y person ifanc hwn ar drywydd gyrfa mewn gofal cymdeithasol.

 

Yn araf bach, rydym wedi newid agweddau tuag at gam-drin domestig. Yn awr mae angen inni wneud yr un peth ar gyfer cam-drin yr henoed. Mae Action on Elder Abuse ac Age Cymru yn borth i gefnogi pobl nad ydynt yn gwybod ble arall i droi.

 

Wrth edrych tua’r dyfodol, hoffem weld ein cynrychiolwyr etholedig, Aelodau’r Cynulliad, yn codi proffil cam-drin yr henoed. Tra byddwn yn anelu at y nod hon, mae cyfle i godi ymwybyddiaeth o gam-drin yr henoed yn y ddeddfwriaeth newydd ar gam-drin domestig, i sicrhau y caiff hyfforddiant hanfodol ei ddarparu, felly beth am roi hynny ar waith.

 

Cwestiynau

 

Mike Hedges – ymddengys fod cymdeithas yn gweld cam-drin plant yn bwysicach na cham-drin yr henoed. Mae angen i’r cyhoedd ddeall, pan fyddwn yn sôn am gam-drin yr henoed mae’n cael ei ddad-ddyneiddio drwy ddweud cam-drin yn y ‘cartref’ neu ‘ysbyty’, ond byddai’n fater gwahanol os dywedir ‘Mrs Jones’...

 

Phyllis Preece – ni wnaethoch sôn am ysbytai. Nid yw amser o blaid pobl hŷn ac maent yn poeni am y teulu. Ynghylch hyfforddiant, synnwyr cyffredin ydyw. Fe aeth dau o bobl o Gonfensiwn Cenedlaethol y Pensiynwyr fel ffrindiau i ymweld â rhywun yn yr ysbyty a gwelwyd cam-drin, a dywedwyd wrth Age Cymru. Dylem eu canmol am waith caled, ond gall pobl hŷn synhwyro cam-drin.

 

Louise Hughes – mae hyfforddiant yn air anghywir – mae angen inni gyfleu’r neges i’r gymuned. Yn ddiweddar rydym wedi gweithio gyda gwirfoddolwyr sydd wedi hyrwyddo negeseuon ataliol i dros 5000 o bobl hŷn. Mae arnom angen mwy o fentrau fel hyn, ac mae llawer o ffyrdd o wneud hyn.

 

Mohammed Asghar AC – trafodaeth ddiddorol iawn. Ni ddefnyddiwyd y gair ‘Ymgysylltu’ ond dylai pobl gymryd sylw ohono. Dof o gymuned Asiaidd, na fydd yn defnyddio cartrefi gofal; rydym yn addoli pobl hŷn, ein mam, ein neiniau a’n teidiau... Rhaid inni ddysgu oddi wrth gymunedau o’r fath, er enghraifft, y gymuned Affro-Garibïaidd. Rhaid inni wneud rhywbeth yn Llywodraeth Cymru – yr wythnos diwethaf troais yn 70 mlwydd oed, pe bawn i’n ofni am beidio â gweithio, gallwn deimlo’n wahanol. Dylem ystyried ymgysylltu â’r gymuned 2 awr yr wythnos.

 

Rachael Nicholson – Mae menter yn Llundain i gefnogi ‘pobl hŷn a gaiff eu cam-drin’ gyda chefnogaeth gan eu cymheiriaid..

 

Louise Hughes – Rydym wedi gweithio gyda llawer o gymunedau gwahanol, ond mae angen i’r mentrau gael eu hariannu’n well.

 

Nancy Davies – Mae angen inni ddileu achosion cam-drin – er enghraifft gwahaniaethu ar sail oedran a ‘phobl hŷn yn costio gormod’ a phobl ifanc sy’n cael eu cam-drin yn mynd ymlaen i ‘gam-drin’ eu hunain. Mae angen inni fynd i’r afael â’r broblem a chael gwared ar yr achos.

 

Lynda Wallis – rwy’n falch iawn o glywed am y pwnc hwn heddiw. Nid oes dim ymwybyddiaeth gyhoeddus ohono; mae’n bwnc tawel iawn ar y cyfan ac nid yw’n rhywbeth yr ydym am feddwl amdano am ein nain a thaid ni. Maecam-drin plant yn bwnc cyffredin yn y newyddion, ond nid felly cam-drin yr henoed. Mae pobl yn anwybyddu’r pwnc, felly mae angen mwy o ymwybyddiaeth o’r broblem.

 

Louise Hughes – Rydych wedi disgrifio cam-drin domestig, ond nid yw cam-drin pobl hŷn yn cael ei gydnabod cystal.

 

Cathrin Manning –  mae angen codi mwy o ymwybyddiaeth o ran diogelu – gall hyn beri anawsterau oherwydd ceir gwahaniaethau, a dehongliad o ymddiriedaeth amrywiol yn yr awdurdodau lleol gwahanol, gyda rhai achosion yn cael eu gwrthod oherwydd hyn.

 

Louise Hughes – Rydym wedi gweld hyn ac anogwn bobl i’w herio.

 

Gareth Powell – Nid yw pobl yn gweld eu hunain fel pobl sydd wedi heneiddio, ac wn i ddim suti fynd i’r afael â’r broblem. O ran cael gofal yn y cartref ar gyfer pobl 80 mlwydd oed a hŷn, yn gyffredinol mae pobl yn meddwl na fydd yn digwydd iddynt hwy. Nid ydym yn meddwl am amseroedd pan fydd angen gofal arnom, ond dylai cam-drin fod yn fater i ni ymddiddori ynddo, ac i’w ragweld cyn iddo ddigwydd.

 

John Davies – pa effaith a gaiff caledi ar awdurdodau lleol, gyda phobl hŷn yn methu â mynd allan cystal oherwydd y toriadau, er enghraifft, llai o ddewis o lwybrau bysiau? Mae gennym y boblogaeth pobl hŷn fwyaf yn y DU, ond nid oes neb yn gofyn i ni beth yr ydym ni’n ei brofi.

 

Mike Hedges AC – cam-drin ariannol – ychydig iawn o neiniau a theidiau sy’n dymuno erlyn eu hwyrion sy’n dwyn oddi arnynt efallai, felly sut allwn ni atal troseddau fel hyn rhag parhau? Nid yw’r bobl hŷn am hawlio’r arian yn ôl, ond maent am atal y dwyn.

 

Louise Hughes – ynghylch eiriolaeth, bydd teuluoedd yn dod atom ac yn gallu ystyried yr opsiynau. Nid yw pobl hŷn angen amddiffynfa gan oedolion bob amser, mae ffyrdd eraill ar gael.

 

Phyllis Preece – nid oes neb yn credu y bydd hyn yn digwydd iddynt hwy, a dyna pam mae atal cam-drin yn beth allweddol.

 

Argymhellion / camau i’w cymryd

 

      Codi proffil cam-drin yr henoed

 

      Gofyn i’r Gweinidog fod yn glir ynghylch beth yw atal

 

      Siarad â fforymau pobl hŷn ynghylch sut i gefnogi / amddiffyn pobl hŷn rhag camdriniaeth

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf

 

10 Chwefror 2016